Gwefan Swyddogol yr URC
Y Garfan: Archif Chwaraewyr Carfan Cymru
ABCDEFGHIJKLMNOPQRSTUVWXYZ
Y Garfan
Martyn Williams
Martyn Williams
DG1st Sep 1975
Man GeniPontypridd, Cymru
Taldra ()
Pwysau ()
Safle Reng Ôl
Anhrydeddau PrawfWales (100 caps)
Bywgraffiad Chwaraewr
Newyddion Chwaraewr
Player Photos
Player Wallpaper
Bywgraffiad Chwaraewr

Yn dilyn ymadawiad cynnar Cymru o Gwpan y Byd yn 2007, cyhoeddodd Martyn Williams ei fod yn ymddeol o’r llwyfan rhyngwladol. Fodd bynnag, wedi penodiad Warren Gatland fel Prif Hyfforddwr newydd, perswadiwyd Williams i roi’r gorau i’r syniad o ymddeol er mwyn ei gynnwys yn sgwad Cymru cyn Pencampwriaeth Chwe Gwlad yr RBS yn 2008.

Mwynhaodd Williams ymgyrch hynod lwyddiannus; chwaraeodd ym mhob un o gemau pencampwriaeth fuddugoliaethus y Gamp Lawn, sgoriodd gais yn y gêm yn erbyn Ffrainc oedd i benderfynu pwy fyddai’r pencampwyr a chyflwynwyd iddo wobr Gwron y Gêm am ei berfformiad gwych yn erbyn yr Albanwyr yn Stadiwm y Mileniwm.

Roedd Williams hefyd yn un o arwyr ymdrech Camp Lawn Cymru yn 2005 a chafodd ei enwi fel Gwron Pencampwriaeth Chwe Gwlad yr RBS, wedi cyfres o arddangosiadau gwych yn cael eu coroni gan y ddau gais a sgoriodd o fewn pum munud yn erbyn Ffrainc.
Enillodd Williams gap ym mhob un o’r lefelau oedran ac mae’n gyn-gapten yr y tîm Dan 21. Chwaraeodd gyntaf i Gymru ar lefel h?n yn erbyn y Barbariaid yn 1996, ac mae wedi bod yn gapten ar ei wlad ar bum achlysur.

Teithiodd Williams Awstralia gyda’r Llewod Prydeinig a Gwyddelig yn 2001 ac yn 2005. Roedd yn aelod allweddol o dîm Cymru yng Nghwpan y Byd yn 2003, gan sgorio cais a gôl adlam gofiadwy yn erbyn Tonga.

Dechreuodd gyrfa glwb Williams ym Mhontypridd, ond mae wedi bod yng Nghaerdydd ers 1999. Chwaraeodd ugain gwaith i’w glwb yn ystod tymor 2006-2007 a sgoriodd dri chais, un ohonynt yn sicrhau buddugoliaeth gyntaf i dîm Gleision Caerdydd ar dir Ffrainc yng Nghwpan Heineken (yn erbyn Bourgoin).

Enwyd Williams yn sgwad Gareth Jenkins cyn Cyfres Invesco Perpetual yn 2006. Sgoriodd gais yng ngêm agoriadol y gyfres yn erbyn Awstralia a hefyd yn y gêm derfynol yn erbyn Seland Newydd, a gwnaeth ymddangosiad pellach yn y fuddugoliaeth dros Ganada. Chwaraeodd Williams i Gymru ym mhob un o gemau Pencampwriaeth Chwe Gwlad yr RBS yn 2007.

Wedi cael seibiant o sgwad Cymru i deithio Awstralia ym Mai 2007, enwyd Williams fel un o’r 41 o chwaraewyr yn sgwad gychwynnol Cymru fyddai’n ymarfer yn ystod yr haf ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2007. Ym mis Awst sicrhaodd ei le ymhlith y 30 terfynol a chwaraeodd yn nwy gêm Cyfres Haf Invesco Perpetual yn Stadiwm y Mileniwm.

Chwaraeodd Williams ar gychwyn pob un o bedair gêm Gr?p B Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd; sgoriodd ddau gais yn y gêm pan roddwyd curfa wirioneddol 72-18 i Siapan yn Stadiwm y Mileniwm a sgoriodd un cais pan drechwyd Cymru gan Fiji yn Nantes.

Gyda hyn cyhoeddodd ei ymddeoliad o’r llwyfan rhyngwladol ond llwyddodd yr hyfforddwr newydd, Warren Gatland, i’w ddarbwyllo i roi’r gorau i’r syniad a daeth ‘Nugget’ yn aelod gwerthfawr o dîm Camp Lawn Cymru yn 2008.

Cafodd seibiant o daith yr haf i Dde’r Affrig ond dychwelodd yn yr hydref i chwarae yn erbyn De’r Affrig, Seland Newydd ac Awstralia.

Ac yntau yn aelod anhepgor o dîm Warren Gatland ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2009, cafodd ei ddewis ar gyfer taith arall gyda'r Llewod, y tro hyn i Dde Affrica yn 2009. Roedd ar y fainc yn ystod y ddau brawf agoriadol cyn ennill ei le yn y tîm enillodd y prawf olaf.

Dyddiad Gwrthwynebwyr Ceisiau Tros GA Cosb CF RC Pntiau Mun
20/08/2011
Ariannin







61
02/06/2012
Barbariaid







34
Cyfanswm Wedi chwarae 2 0
0
0
0
0
0
0
95
CystadleuaethTîmWedi chwaraeCeisiau TrosGACosbCFRCPntiau
2011-2012 - Test Matches
Cymru
1 +1







2011-2012 Cyfanswm

1 +1







2010-2011 - Gêm Gyfeillgar
Cymru
1 +2







2010-2011 Cyfanswm

1 +2







2009-2010 - Gêm Gyfeillgar
Cymru
3







2009-2010 - Chwe Gwlad
Cymru
4







2009-2010 Cyfanswm

7







2008-2009 - Gêm Gyfeillgar
Cymru
3







2008-2009 - Chwe Gwlad
Cymru
4




1


2008-2009 Cyfanswm

7




1


2007-2008 - Gêm Gyfeillgar
Cymru
2







2007-2008 - Cwpan Rygbi'r Byd
Cymru
4
3





15
2007-2008 - Chwe Gwlad
Cymru
5
1



1

5
2007-2008 Cyfanswm

11
4



1

20
2006-2007 - Gêm Gyfeillgar
Cymru
3
2





10
2006-2007 - Chwe Gwlad
Cymru
5







2006-2007 Cyfanswm

8
2





10
2005-2006 - Gêm Gyfeillgar
Cymru
2







2005-2006 - Chwe Gwlad
Cymru
5
1



1

5
2005-2006 - Test
Cymru
1







2005-2006 Cyfanswm

8
1



1

5
2004-2005 - Gêm Gyfeillgar
Cymru
0 +2







2004-2005 - Chwe Gwlad
Cymru
5
3





15
2004-2005 - Test Matches
Cymru
0 +2







2004-2005 Cyfanswm

5 +4
3





15
2003-2004 - Gêm Gyfeillgar
Cymru
1







2003-2004 - Cwpan Rygbi'r Byd
Cymru
2 +2
2

1



13
2003-2004 - Chwe Gwlad
Cymru
3 +2
1





5
2003-2004 Cyfanswm

6 +4
3

1



18
2002-2003 - Gêm Gyfeillgar
Cymru
4







2002-2003 - Chwe Gwlad
Cymru
5
1





5
2002-2003 - Test
Cymru
1







2002-2003 Cyfanswm

10
1





5
2001-2002 - Gêm Gyfeillgar
Cymru
2







2001-2002 - Chwe Gwlad
Cymru
5







2001-2002 Cyfanswm

7







2000-2001 - Chwe Gwlad
Cymru
4







2000-2001 Cyfanswm

4







1999-2000 - Gêm Gyfeillgar
Cymru
1







1999-2000 - Cwpan Rygbi'r Byd
Cymru
2







1999-2000 - Chwe Gwlad
Cymru
0 +1







1999-2000 Cyfanswm

3 +1







1998-1999 - Five Nations
Cymru
2







1998-1999 - Gêm Gyfeillgar
Cymru
2







1998-1999 Cyfanswm

4







1997-1998 - Five Nations
Cymru
1







1997-1998 - Gêm Gyfeillgar
Cymru
2







1997-1998 Cyfanswm

3







1996-1997 - Gêm Gyfeillgar
Cymru
2 +1







1996-1997 Cyfanswm

2 +1







Cyfanswm - British & Irish Lions Tour

3 +3







Cyfanswm - Kearys Renault Challenge

28 +5
2





10
Cyfanswm - Guinness Six Nations

48 +3
7



3

35
Cyfanswm - Cwpan Rygbi'r Byd

8 +2
5

1



28
Cyfanswm

87 +13
14
0
1
0
3
0
73
© 2020 © Undeb Rygbi Cymru Cyf, Ystadegol © SFMS Cyf, Ffotograffiaeth © Asiantaeth Huw Evans Nodyn Cyfreithiol Dosbarthwyd gan Sotic Pwerir gan OpenText WSM